menyn
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ˈmɛnɨ̞n/
- yn y De: /ˈmeːnɪn/, /ˈmɛnɪn/
Geirdarddiad
Cymraeg Canol ymenyn o'r Gelteg *amben o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *h₃éngʷn̥ a welir hefyd yn y Lladin unguen ‘saim’, Almaeneg y Swistir Anke ‘menyn’ a'r Sansgrit ā́ñjana (आञ्जन) ‘eli, braster’. Cymharer â'r Gernyweg amanyn, y Llydaweg amann a'r Wyddeleg im.
Enw
menyn g
- Emwlsiwn solet meddal melynaidd o fraster llaeth, dŵr, aer ac weithiau halen a gynhyrchir trwy gorddi yr hufen o laeth cyflawn.
Cyfystyron
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
|
|