Cymraeg

Enw

pen g (lluosog: pennau)

  1. Y rhan o gorff anifail neu berson sy'n cynnwys yr ymennydd, ceg a'r prif organau synhwyraidd.
  2. Meddwl; syniadau a meddyliau eich hun.
    Mae llwyth o bethau yn mynd trwy fy mhen.
  3. Y rhan uchaf o rywbeth.
    Es am dro i ben y mynydd.
    Ysgrifennais fy enw ar ben y dudalen.
  4. Diwedd bwrdd hirsgwar sydd bellaf o'r drws; gan amlaf, fe'i ystyrir yn safle anrhydedddus.
    Mewn cyfarfodydd, eisteddai perchennog y cwmni ar ben y bwrdd.
  5. Cur pen, pen tost; poen yn y penglog.
  6. Un person.
    Bydd y bwyd yn costio £20 y pen.
  7. Ymennydd; deallusrwydd
    Mae tipyn o ben ganddo.
  8. Y prif berson; yr arweinydd neu bennaeth.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau

Saesneg

Berf

to pen
  1. (am anifeiliaid) corlannu, llocio
  2. (llenyddol) ysgrifennu