Wiciadur:Tiwtorial

Shwmae! Croeso i Diwtorial Wiciadur. Geiriadur cydweithredol ar y wê ydy Wiciadur. Mae pawb yn medru ei olygu a gallwch chi hefyd gyfrannu ato. Bydd y tudalennau canlynol yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth elfennol i chi fedru dechrau ein cynorthwyo i adeiladu'r prosiect hwn.

Bydd pob tudalen yn trafod nodweddion defnyddiol y feddalwedd wici, rhai canllawiau ar arddull a chynnwys, gwybodaeth am y gymuned Wiciadur, neu bolisïau a chonfensiynnau sy'n bwysig i Wiciadur.

Cofiwch mai tiwtorial yw hwn, ac nid tudalen polisi pendant ac nid canllaw manwl mohono chwaith. Os hoffech fwy o fanylion trwy gydol y tiwtorial, ceir dolenni wici i dudalennau eraill ar Wiciadur. Mae gan y tudalennau hynny mwy o wybodaeth ar y testunnau a geir yn y fan hon. Nid oes angen i chi edrych arnynt ar hyn o bryd, ond mae croeso i chi os ydych yn dymuno gwneud hynny. Efallai yr hoffech eu hagor mewn ffenestr ar wahan, er mwyn gallu aros gyda'r tiwtorial.

Bydd dolenni hefyd i wagleoedd lle gallwch ymarfer yr hyn rydych yn dysgu. Manteisiwch ar y cyfle i arbrofi gyda'r pethau hyn a chwaraewch o gwmpas gya'r offer. Ni fydd neb yn digio os ydych yn arbrofi ar y tudalennau hynny, felly arbrofwch er mwyn cael gweld beth allwch chi wneud.

Sylwer: Mae lleoliadau'r dolenni y cyfeirir atynt yn y tiwtorial yn cymryd yn ganiataol eich bod yn defnyddio gosodiad rhagosodedig y dudalen. Os ydych wedi mewngofnodi fel defnyddiwr cofrestredig, a'ch bod wedi newid eich dewisiadau rhagosodedig, mae'n bosib y byddant mewn lleoliadau gwahanol.

Barod amdani? Yna bant a ni!