Wiciadur:Tiwtorial (Golygu)
Tudalen blaen · Golygu · Fformatio · Dolenni Wiciadur · Dolenni tudalennau perthnasol · Dolenni allanol · Y Dafarn · Pethau i'w cofio · Cofrestru · Gofod-enwau
Golygu tudalennau
golyguFe ddechreuwn ni gyda'r elfen symlaf oll o'r wici: Golygu. Mae gan bob tudalen wici (ac eithrio nifer fychan o dudalennau sydd wedi'u diogelu) ddolen ar frig y dudalen sy'n dweud "golygu". Trwy glicio ar y tab hwn, gallwch olygu neu newid y dudalen rydych yn edrych arni. Gelwir gwefannau fel y rhain sy'n medru cael eu golygu gan unrhywun yn wicis.
Arbrofwch chi! Mewn ffenestr newydd, agorwch pwll tywod y dudalen hon, ac yna cliciwch ar y ddolen "golygu". Byddwch yn gweld y côd ffynhonnell ar gyfer y dudalen honno. Ysgrifennwch rhywbeth dibwys neu ddoniol, neu ddywedwch helo. Yna cadwch y dudalen trwy glicio ar y botwm Cadw'r dudalen o dan y ffenest olygu, neu trwy wasgu Ctrl-S ar eich allweddell er mwyn cael gweld beth rydych wedi gwneud. Ceir mwy o wybodaeth yn Cymorth:Sut i olygu tudalen. Efallai yr hoffech agor hwn mewn ffenestr newydd hefyd, er mwyn i chi allu barhau â'r tiwtorial.
Pa bryd bynnag rydych eisiau arbrofi heb boeni am y canlyniadau, gallwch wneud hynny yn y Wiciadur:Pwll tywod.
Dangos rhagolwg
golyguNodwedd bwysig i chi ddefnyddio hefyd yw Dangos rhagolwg, sy'n eich galluogi i weld sut fydd eich tudalen yn edrych ar ôl eich golygiad, hyd yn oed cyn i chi gadw'r dudalen. Ceisiwch wneud golygiad yn y pwll tywod, ac yna cliciwch ar y botwm Dangos rhagolwg. Rydym ni gyd yn gwneud camgymeriadau, ac mae hyn yn eich cynorthwyo i'w gweld yn syth. Os ydych yn dod i arfer o ddefnyddio Dangos rhagolwg cyn cadw'ch gwaith, byddwch yn arbed llawer o amser i'ch hun ac i olygwyr eraill.
Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn bwriadu gwneud golygiadau eraill ar yr un dudalen. Mae'n syniad da i gadw'r dudalen unwaith yn unig, er mwyn osgoi gorlenwi'r dudalen hanes tudalen. Mae cadw'ch gwaith yn llai aml hefyd yn fodd o osgoi cyd-ddigwyddiadau golygu. Fodd bynnag, pan fyddwch yn newid darnau helaeth o destun, dylwch ystyried gwneud hyn gam wrth gam (e.e. un paragraff ar y tro) fel bod defnyddwyr eraill yn medru dilyn eich golygiadau'n haws.
Golygiadau bychain
golyguOs ydych wedi mewngofnodi fel defnyddiwr cofrestredig, gallwch ddynodi golygiad bychan trwy osod tic yn y blwch perthnasol cyn cadw'r dudalen. Defnyddir hyn er mwyn dangos i ddefnyddwyr eraill nad oedd eich golygiad yn rhywbeth mawr. Nid oes canllawiau pendant ar gyfer pryd y dylech wneud hyn, ond mae'n addas ar gyfer cywiro sillafu a newidiadau fformat bychain fel ychwanegu bwlch neu ddolen wici. Mewn geiriau eraill, mae newid ymddangosiad tudalen yn rhywbeth bychan yn gyffredinol, ond ystyrir newid y cynnwys yn fwy sylweddol. Os nad ydych yn siwr, peidiwch a gosod tic yn y blwch.
Crynodeb golygu
golyguCyn i chi glicio ar Cadw'r dudalen, fe'i ystyrir yn arfer dda i gynnwys crynodeb byr o'ch newidiadau yn y blwch Crynodeb golygu sydd rhwng y blwch golygu a'r botymau Cadw'r dudalen a Dangos rhagolwg. Gall y crynodeb fod yn eithaf cyffredinol; er enghraifft, os nodwch "teipio" bydd pobl yn gwybod eich bod wedi gwneud cywiriad sillafu neu atalnodi, neu rhyw olygiad bychan arall.
Ar ôl i chi orffen arbrofi yn y pwll tywod, cliciwch ar y ddolen hon er mwyn symud ymlaen i dudalen nesaf y tiwtorial.