Wiciadur:Tiwtorial (Fformatio)


Marciau'r Wici

golygu

Testun bras ac italig

golygu

Mae ysgrifennu rhywbeth yn y Wiciadur ychydig yn wahanol i ysgrifennu ar brosesydd geiriau cyffredin.

Gall y wici dderbyn rhai tagiau HTML, ond mae'n well gan y rhan fwyaf o bobl ddefnyddio'r iaith farcio sydd yn gynwysiedig yn y wici, am fod hyn yn haws i'w ddefnyddio. Yr arddulliau fformatio testun a ddefnyddir amlaf ydy testun bras ac italig. Defnyddir nifer o gollnodau er mwyn creu ysgrifen bras neu italig:

  • Bydd ''italig'' yn ymddangos fel italig. (2 gollnod)
  • Bydd '''bras''' yn ymddangos fel bras. (3 collnod)
  • Bydd '''''italig bras''''' yn ymddangos fel italig bras. (2+3=5 collnod)

Yn unol a chonfensiwn, defnyddir testun italig ar gyfer tietlau llyfrau, ffilmiau, cyhoeddiadau ac enwau tacsonomig.

Yn gyffredinol, ysgrifennir cofnodion fel eu bod yn edrych fel cofnodion mewn geiriadur cyffredin, ac felly nid ydym yn defnyddio confensiynnau Wicipedia o gynnwys teitl y cofnod mewn testun bras yn y paragraff cyntaf. Yn hytrach, defnyddiwn gwahanol benawdau er mwyn gosod trefn ar y wybodaeth. Am fwy o wybodaeth am ganllawiau fformatio tudalen, gweler Wiciadur:Esbonio diwyg cofnod.

Penawdau ac is-benawdau

golygu

Gellir defnyddio penawdau ac is-bennawd er mwyn dynodi rhannau ymadroddd gwahanol e.e. (enw, berf).

Gellir creu penawdau fel hyn:

  • ==Pennawd lefel uchaf== (gyda 2 symbol "yn cyfateb i"
  • ===Isbennawd=== (3 symbol "yn cyfateb i")
  • ====Lefel arall i lawr==== (4 symbol "yn cyfateb i")

Ac yn y blaen. Os ydych yn darganfod fod angen penawdau gyda 5 symbol "yn cyfateb i" neu fwy, dylech ystyried ail-strwythuro'r cofnod.

Os yw cofnod yn cynnwys o leiaf 3 pennawd, cynhyrchir blwch cynnwys yn awtomatig. Ceisiwch greu pennawd ym mhwll tywod y dudalen hon. Ar ol i cho orffen, cliciwch isod er mwyn parhau.

Parhau gyda'r tiwtorial.


Nodyn:tiwtorial