cenedl
Cymraeg
Cynaniad
Geirdarddiad
Cymraeg Canol kenedyl o’r Hen Gymraeg kenedel o’r Gelteg *kenetlom o’r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *ken- ‘tarddu, hanfod’, yr un elfen a welir yn cenau, cynt. Cymharer â'r Gernyweg kenedhel, y Llydaweg kenel ‘grŵp ethnig’ a'r Gwyddeleg cineál ‘math, teip, siort, rhywogaeth’.
Enw
cenedl g (lluosog: cenhedloedd)
- Grŵp o bobl sy'n rhannu agweddau o iaith, diwylliant a/neu ethnigrwydd.
- Cymuned sefydlog gyda hanes cyfansoddiadol, a ffurfiwyd ar sail iaith, tiriogaeth, bywyd economaidd a chyfansoddiad seicolegol a welir mewn diwylliant cyffredin.
- (gramadeg) Rhyw enw, rhagenw neu ansoddair, sef benywaidd, gwrywaidd a diryw.
Cyfystyron
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
|
|