Gweler hefydgwŷdd

Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ɡuːɨ̯ð/
  • yn y De: /ɡʊi̯ð/

Geirdarddiad

  • Ansoddair: Cymraeg Canol gwyd o’r Gelteg *wēdus o’r ffurf Indo-Ewropeg *u̯eidʰ-o- ar yr un gwreiddyn *u̯idʰu- ‘gwydden, coeden’ ag a welir yn gwŷdd ‘coed’. Cymharer â’r Gernyweg goedh, y Llydaweg gouez ‘gwyllt; tir heb ei drin’ a’r Wyddeleg fia ‘gwyllt; carw’, fiadh ‘helwriaeth’.
  • Enw 1: Cymraeg Canol guit o’r Gelteg *gezdā. Cymharer â’r Gernyweg goodh, y Llydaweg gwaz, y Wyddeleg a Gaeleg yr Alban gèadh.
  • Enw 2: Celteg wēdo- o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *u̯(e)id- ‘gweld’ a welir hefyd yn yr Hen Roeg eîdos (εἶδος) ‘gwedd’ a’r Sansgrit védas (वेदस्) ‘gwybodaeth’. Cymharer â’r Llydaweg a-c’houez ~ a-ouez ‘yn gyhoeddus, ar goedd’ a’r arddodiad Hen Wyddeleg fíad (-um, -ut, fiado, -a) ‘yn agored, yng ngŵydd un’.

Ansoddair

gŵydd anarferedig

  1. (am anifail) Gwyllt, heb ei ddofi, anwar.
  2. (am dir) Heb ei droi, heb ei drin, coediog, wedi tyfu’n wyllt.
  3. (am dir) Anial, diffaith.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau


Enw

 
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
 
Gŵydd Ffrengig (neu alarchŵydd)

gŵydd g (lluosog: gwyddau, bachigyn: gwyddan)

  1. (adareg) Unrhyw adar dŵr mawr troedweog o deulu’r Anatidae sy’n pori, mwy o faint na hwyaden, ac iddo pig uchel braidd yn ynghau, coesau o hyd canolig, careiau’n hollol bluog a tharsi rhwydol.
    Cafwyd gŵydd i ginio Nadolig eleni yn hytrach na'r twrci arferol.
  2. (yn ffigurol) Gwirionyn.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau


Enw

gŵydd g anrhifadwy

  1. (yn unig ar ôl yr arddodiaid yn, i, o) Gwyddfod, presenoldeb.
    cael mynediad i ŵydd y brenhines: ‘cael mynediad i bresenoldeb y brenhines’
  2. (anarferedig) Golwg, wyneb.
    yng ngŵydd y dorf: ‘o flaen llygaid y dorf’
    gŵydd yng ngŵydd: ‘wyneb yn wyneb; yn agored, ar goedd’

Termau cysylltiedig