Cymraeg

 
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
 
Migwrn (1) dynol
 
Migyrnau (2) ar ddwrn caead

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈmɪɡʊrn/
  • yn y De: /ˈmiːɡʊrn/, /ˈmɪɡʊrn/

Geirdarddiad

Cyfansoddair o elfen gyntaf anhysbys a'r ail elfen *cwrn (fel yn asgwrn, llosgwrn). Cymharer â'r Gernyweg mygorn ‘cymal; migwrn bys’, y Llydaweg migorn ‘madruddyn; cartilag’ a'r Wyddeleg (taf.) mudharn ‘ffêr’.

Enw

migwrn g (lluosog: migyrnau)

  1. (anatomeg) Y cymal sy'n cysylltu'r droed gydag esgyrn y goes isaf, yn benodol y colyn-gymal yn cysylltu'r talws gyda'r tibia a'r ffibwla
  2. (anatomeg) Chwydd llyfndew dorsal ar gymal bys, yn enwedig un o'r cymalau sy'n cysylltu'r bysedd â'r llaw

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau